logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Trown atat Dduw ein Tad mewn gweddi daer

Gweddi dros Ffoaduriaid

Trown atat Dduw ein Tad mewn gweddi daer
wrth gofio cur pob un sy’n frawd a chwaer
na wêl ddyfodol mwy o fewn eu gwlad
a’u nod yw ffoi o ormes trais a brad.
Ac atom dônt, yn drist a llwm eu stad
yn atgof byw o Grist ar ffo o’i wlad.

‘Rôl gadael bro heb loches gyda’r hwyr
anobaith ddaw yn don i’w llethu’n llwyr.
Heb neb o’u plaid, yn wrthodedig mwy,
dim ond tydi a all eu cynnal hwy.
A boed i ni fel Crist gael dwyn yr iau
a chario’u baich pan fyddont yn llesgáu.

Ar daith o ofn a hwythau ’mhell o’r lan
a thonnau’r môr yn llyncu’r badau gwan,
dy law yw’n nerth i’w codi’n glir o’r dŵr
a’u cario’n saff i noddfa ddi-ystŵr.
A boed i ni wrth helpu’r lleiaf un,
fod heddiw’n ddrych o fywyd Crist ei hun.

Ac yn ein plith boed croeso iddynt hwy
i fwrw gwraidd ac ymgartrefu mwy.
Dy fendith fo yn nawdd i’n dyfu’n un,
gan greu o bawb, ein teulu mawr cytûn.
Yn un yng Nghrist, O Dad, cawn ffynnu ’nghyd,
a dail ein pren a ddwg iachâd i’r byd.

Trown atat Dduw ein Tad mewn gweddi daer
Eirian Dafydd
Tôn: Finlandia
Mesur: 10.10.10.10.10.10

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024