logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tywys fi

Pennill 1
Pan dwi’m yn gweld fy llwybr i
Ti’n dal fy llaw ac arwain fi
Mae d’air yn llusern ar fy ffordd
Rwyt Ti’n dân a chwmwl nos a dydd

Corws
Ni welais innau neb rioed fel Ti
S’dim duw sy’n gallu gwneud ‘run fath â Ti
Yn profi unrhyw ddyffryn, mynydd,
sychder, ffynnon, Ti’n tywys fi

Pennill 2
Ti’n f’eistedd lawr a golchi ‘nhraed
Ti yw’r Duw sydd am gysuro fi
Mae’r dwylo sydd yn cynnal sêr
Yn dal yn gynnes ynof fi

Corws (X4)

Pont 1
Pan rwy’n cerdded drwy y dyffryn tywyll
Ti’n tywys fi
Os ar lwybr unig pell o bobman
Ti’n tywys fi
Gyda ‘ngobaith gwan a chalon boenus
Ti’n tywys fi
Pa gyflwr bynnag fyddaf i
Ti’n tywys fi

Pont 2 (X2)
Os rwyt yn cerdded drwy y dyffryn tywyll
Fe’th dywys di
Os rwyt ar lwybr unig pell o bobman
Fe’th dywys di
Gyda gobaith gwan a chalon boenus
Fe’th dywys di
Mae’n Duw yn abl
Fe’th dywys di

Mae’n Duw yn abl
Fe’th dywys di
Mae’n Duw yn abl
Fe’th dywys di
Mae’n Duw yn abl
Fe’th dywys di

Corws (X2)

Tywys fi
Pull me through (Damilola Makinde | Malcolm McCarthy | Rich di Castiglione)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2022 KXC Publishing (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024