Wele’r Athro mawr yn dysgu
dyfnion bethau Duw;
dwyfol gariad yn llefaru –
f’enaid, clyw!
Arglwydd, boed i’th eiriau groeso
yn fy nghalon i;
crea hiraeth mwy am wrando
arnat ti.
Dyro inni ras i orffwys
ar dy nerth a’th ddawn;
tyfu’n dawel yn dy Eglwys,
ffrwytho’n llawn.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 384)
PowerPoint