Wrth dy orsedd ‘r wyf yn gorffwys,
Llefain arnat fore a nawn,
Am gael clywed llawn ddistawrwydd,
Ar f’euogrwydd tanllyd iawn:
A thangnefedd,
Pur o fewn yn cadw’i le.
‘D oes ond gras yn eitha’i allu
Ddaw â’m henaid i i’w le;
Gras yn unig all fy nghadw
O fewn muriau ‘i gariad E’:
Uwchlaw dyfais
Dyn a’i allu, yw ei rym.
Llef ddrylliedig gref y groesbren
Sydd yn abl i faddau ‘mai:
Llef y croesbren a all hefyd
Wneuthur im edifarhau:
Ar Galfaria,
Fynydd sanctaidd, mae fy ngrym.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 536)