Y mae hiraeth yn fy nghalon
Am gael teimlo hyfryd flas
Concwest nwydau sydd hyd heddiw
Yn gwrthnebu’r nefol ras;
Dyma ddawn hyfryd iawn,
Wy’n ei ’mofyn fore a nawn.
‘Rwyf yn gweled bryniau uchel
Gwaredigaeth werthfawr lawn;
O! na chawn i eu meddiannu
Cyn machludo haul brynhawn:
Dyma ‘nghri atat Ti;
Addfwyn Iesu, gwrando fi.
Marchog yn dy freiniol allu,
Gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun,
Estyn fraich a thor elynion,
Achub wael druenus ddyn:
Gelyn llym ni saif ddim
Fyth o flaen d’anfeidrol rym.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 448)
PowerPoint