(Iesu yn gysgod)
Y mae syched ar fy nghalon
heddiw am gael gwir fwynhau
dyfroedd hyfryd ffynnon Bethlem –
dyfroedd gloyw sy’n parhau;
pe cawn hynny
‘mlaen mi gerddwn ar nhaith.
Y mae gwres y dydd mor danbaid,
grym fy nwydau fel y tân,
a gwrthrychau gwag o’m cwmpas
am fy rhwystro i fynd ymlaen;
rho im gysgod
addfwyn Iesu, ganol dydd.
Dyma’r man dymunwn aros,
o fewn pabell bur fy Nuw,
uwch terfysgoedd ysbryd euog
a themtasiwn o bob rhyw,
dan awelon
peraidd, hyfryd tir fy ngwlad.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 708; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 483)
PowerPoint