logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ymddiried wnaf yn Iesu

Pennill 1:
Pan yw ’myd o brawf yn profi’m ffydd
Ymddiried wnaf yn Iesu
Y cwestiynau lu, ’r ansicrwydd du
Ymddiried wnaf yn Iesu
I’r holl glwyfau dwfn heb un gwellhad
Rhed llawenydd pur yn ddyfnach
Mae gwirionedd mwy na phrofa’ i fyth
Ymddiried wnaf yn Iesu

Cytgan:
Ymddiried wnaf yn Iesu
Fy nghraig, fy unig ffydd
E’n gynta’ roes i mi ei serch
Ymddiried wnaf yn Iesu

Pennill 2:
Er mai petrus wyf wrth ryfela’ ’mai
Ymddiried wnaf yn Iesu
Wrth i’m golli’r dydd a boddi bron
Ymddiried wnaf yn Iesu
Er i’m suddo’n ddwfn ym môr fy ngwarth
A chyfiawnder sy’n brawychu
Mi wna’i daflu ’maich ar Galfari
Ymddiried wnaf yn Iesu

Pennill 3:
Er i’r byd fy ngalw i’w wrthod Ef
Ymddiried wnaf yn Iesu
Er cael cynnig llu o wobrau gwag
Ymddiried wnaf yn Iesu
Er mai crwydro ’mhell yw’m tuedd ffôl
Rho helaethrwydd gras i’m orffen
Nes caf foli byth ar ben fy nhaith
Ymddiried wnaf yn Iesu

Ymddiried wnaf yn Iesu
I Set My Hope On Jesus (Matt Papa, Keith Getty, Matt Boswell)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2023 Getty Music Hymns and Songs; Getty Music Publishing; Love Your Enemies Publishing; Messenger Hymns (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024