Ymhlith plant dynion, ni cheir un
Yn ffyddlon fyth fel Iesu ei hun,
Nid yw ei gariad, megis dyn,
Yn gŵyro yma a thraw.
Wel, dyna’r cariad sydd yn awr
Yn curo pob cariadau i lawr,
Yn llyncu enwau gwael y llawr
Oll yn ei enw’i hun.
O! fflam angerddol gadarn gref
O dân enynnwyd yn y nef;
Tragwyddol gariad ydyw ef
Wnaeth Duw a minnau’n un.
Nid yw y ddaear faith i gyd
Yn deilwng mwy o’m serch a’m bryd,
Nac unrhyw wrthrych yn y byd,
‘Rwy’n caru gwrthrych mwy.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 352)
PowerPoint