Yn angau Crist caed haeddiant drud
I faddau holl gamweddau’r byd,
O flaen yr orsedd buraf sydd:
Ni all euogrwydd yno ddim,
Fe gyll melltithion Sinai’u grym,
Trugaredd rad a garia’r dydd.
Caf yno’n ddedwydd dawel fyw,
Uwch brad gelynion o bob rhyw,
O sŵn y drafferth a phob gwae;
A threulio tragwyddoldeb mwy
I ganu am ei ddwyfol glwy’,
Mewn anthem fythol i barhau.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd:355)
PowerPoint