Yng nghyffro’r gwanwyn pan fo’r ias a’r hud
yn cerdded yn gyfaredd drwy fy myd,
a duwiau swyn yn cymell yn ddi-oed
wrth agor llwybrau fyrdd o flaen fy nhroed,
ar groesffordd gynta’r daith rho imi’r ddawn
i oedi, hyd nes cael y llwybyr iawn.
Yn anterth haf a’m dyddiau’n wyn a hir
a’r wybren uwch fy mhen yn fythol glir,
a byw yn wefr o ramant ac o hoen
heb eisiau dim, heb flinder a heb boen:
yn oriau llwyddiant, Arglwydd, gwared fi
rhag credu bod digonedd hebot ti.
Yn stormydd diarwybod hydref crin
y brofedigaeth neu’r afiechyd blin,
pan guddio’r haul ei wyneb ennyd awr
a llen o gaddug rhyngof fi a’r wawr,
rho nerth im gredu y daw eto ddydd
o gerdded yn dy law ar lIwybrau ffydd.
Yn oerni gaeaf blin y cur a’r loes
pan syrth o’m cylch gysgodion diwedd oes,
a minnau mewn unigrwydd yn fy nghell
yn methu byw ar wres yr hafau pell,
rho ffydd i bwyso ar dy air y caf
oroesi’r gaeaf mewn tragwyddol haf.
T. R. JONES © E. M. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 777)
PowerPoint