logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr Iôr yw ‘Ngwaredigaeth

Pennill 1
Gras Duw estynnwyd ataf fi,
Fe’m tynnodd, do, o ferw’r lli,
A diogel wyf ar y gadarn Graig –
Yr Iôr yw ‘ngwaredigaeth.

Pennill 2
Nid ofnaf ddim yn nh’wyllwch nos,
Ei nerth a’m cyfyd fry o’m ffos;
Caf weld y wawr yn codi draw –
Yr Iôr yw ‘ngwaredigaeth.

Cytgan
Pwy sydd fel yr Iôr ein Duw?
Cadarn dŵr a ffyddlon yw,
Talwyd fy mhris, buddugoliaeth gaed –
Yr Iôr yw ‘ngwaredigaeth.

Pennill 3
Fy ngobaith guddiwyd yn fy Nuw,
Ei Air dry’n addewidion gwiw;
‘Rôl hirlwm noeth, gwn daw gwanwyn braf,
Yr Iôr yw ‘ngwaredigaeth.

Pennill 4
Ynghanol adfyd, dyddiau du,
Wrth brofi gwae a llesgedd hir,
Gwn mai Ei Ras ddaw â newydd wawr –
Yr Iôr yw ngwaredigaeth.

Cytgan
Pwy sydd fel yr Iôr ein Duw?
Cadarn dŵr a ffyddlon yw,
Talwyd fy mhris, buddugoliaeth gaed –
Yr Iôr yw ‘ngwaredigaeth.

Pennill 5
A phan gyrhaeddaf ben fy myw,
Nid oerni bedd gaf gan fy Nuw,
Ond codi wnaf, fe’m geilw fry –
Yr Iôr yw ‘ngwaredigaeth.

Cytgan
Pwy sydd fel yr Iôr ein Duw?
Cadarn dŵr a ffyddlon yw,
Talwyd fy mhris, buddugoliaeth gaed –
Yr Iôr yw ‘ngwaredigaeth.

Duw y Tad – Ef biau’r moliant,
Duw y Mab – Ef haedda’r bri,
Duw yr Ysbryd gaiff ‘r anrhydedd –
Yr Iôr yw’n gwaredigaeth.

Yr Iôr yw ’Ngwaredigaeth
The Lord is my Salvation (Jonas Myrin, Keith, Getty, Kristyn Getty, Nathan Nockells)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2016 Getty Music Publishing (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Sweater Weather Music/Music Services, Inc (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
Capitol CMG Paragon (Gwein. gan SHOUT! Music Publishing UK)
Son of the Lion (Gwein. gan SHOUT! Music Publishing UK)
Cedwir pob hawl. Defnyddir trwy ganiatâd.

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024