Pennill 1:
Pwy wyf fi bod y Brenin mawr yn rhoi
Croeso i mi
Bûm ar goll ond fe’m denodd i
O, ei gariad i mi!
O, ei gariad i mi!
CYTGAN:
’R hwn rhyddhao’r Mab
Y mae’n rhydd yn wir
Rwyf yn blentyn Duw
Mae yn wir
Pennill 2:
Yn rhydd yn awr
Do fe’m prynodd fi
Ei ras sy’n ddwfn
Iesu farwodd drosof fi
Tra yn gaeth i ’mai
Marwodd drosof fi
CYTGAN 2:
’R hwn rhyddhao’r Mab
Y mae’n rhydd yn wir
Rwyf yn blentyn Duw
Mae yn wir
Ac yn nhŷ fy Nhad
Y mae lle i fi
Rwyf yn blentyn Duw
Mae yn wir
Pont:
Wedi’m dewis
Heb fy ngadael
Rwyf yr un rwyt yn dweud yr wyf
Rwyt o ’mhlaid i
Ddim yn f’erbyn
Rwyf yr un rwyt yn dweud yr wyf
© 2017 Hillsong Music Publishing
Cerddoriaeth a geiriau: Ben Fielding & Rueben Morgan
Cyfieithiad Cymraeg: Arwel E. Jones
CCLI # 7157416
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint