Addolwn di, O Arglwydd,
Mor fawr wyt ti ein Duw;
Fe greaist ti y cyfan
A charu popeth byw.
Fe’th folwn di, O Arglwydd
Am Iesu a ddaeth i’n byd
I ddangos dy drugaredd
A’n caru ni i gyd.
Diolch i ti, O Arglwydd,
Am gymorth d’Ysbryd di
I’n harwain yn ein bywyd
O rannu’th gariad di.
O derbyn di, ein Harglwydd,
Ein mawl a’n diolch ni,
A boed i’n bywyd ninnau
Roi clod i’th enw di.
Addolwn di, O Arglwydd
Delyth Wyn
Tôn: Laur
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint