Af ymlaen, a doed a ddelo,
Tra fod hyfryd eiriau’r nef
Yn cyhoeddi iachawdwriaeth
Lawn, o’i enau sanctaidd Ef;
Nid yw grym gelyn llym,
At ei ras anfeidrol ddim.
Ef yw f’unig wir anwylyd,
Y ffyddlonaf Un erioed,
Ac mi seinia’ i maes tra fyddwyf,
Ei anfeidrol ddwyfol glod;
Neb ond Fe, is y ne’,
Yn fy nghalon i gaiff le.
Minnau ganaf am ei enw,
Ac a draethaf mwy ar led,
Nad oes neb ond Ef yn deilwng
Fyth o’m cariad i, a’m cred;
Mwy na’r ne’ yw Efe,
Arall ni all lanw’i le.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 438)
PowerPoint