logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am byth

Mae’r cerddoriaeth ar gael o wefan Bethel Music – www.bethelmusic.com. I wrando ar y gân yn Saesneg dilynwch y ddolen youtube isod.

Mae’r sêr yn wylo’n brudd
A’r haul yn farw fud,
Gwaredwr mawr y byd yn farw
Yn gelain ar y groes;
Fe waedodd er ein mwyn
A phwys holl feiau’r byd oedd arno.

Yn ildio’i enaid Ef,
Heb gwmni Tad o’r nef,
Rhoed annwyl Fab ein Duw mewn t’wyllwch;
Mewn rhyfel yn y bedd
Fe frwydrodd angau’i hun,
A chwalwyd pob un grym yn uffern.

Ysgydwodd daear lawr
Agorwyd drws y bedd,
A’i gariad perffaith Ef yn ennill.
Marwolaeth wedi mynd
Dan law y Brenin byw – Grym angau wedi colli’r dydd.

Am byth mae’n ogoneddus nawr,
Am byth yn ddyrchafedig nawr,
Am byth, yr Un a gododd
Mae Ef yn fyw,
Mae Ef yn fyw.
Canwn Haleliwia,
Canwn Haleliwia,
Canwn Haleliwia
Mae’r Oen yn awr yn Ben.

Am byth mae’n ogoneddus nawr,
Am byth yn ddyrchafedig nawr,
Am byth, yr Un a gododd
Mae Ef yn fyw
Mae Ef yn fyw.

Am byth mae’n ogoneddus nawr,
Am byth yn ddyrchafedig nawr,
Am byth, yr Un a gododd
Mae Ef yn fyw,
Mae Ef yn fyw.

@2013 Bethel Music (Adm Song Solutions www.songsolutions.org) KAJE Songs/Worship Together Music. Cedwir pob hawl. Defnyddir drwy ganiatad. Cyfieithiad Cymraeg awdurdodedig – Arwel E. Jones

PowerPoint youtube
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2018