Am fod fy Iesu’n fyw,
byw hefyd fydd ei saint;
er gorfod dioddef poen a briw,
mawr yw eu braint:
bydd melus glanio draw
‘n ôl bod o don i don,
ac mi rof ffarwel maes o law
i’r ddaear hon.
Ac yna gwyn fy myd
tu draw i’r byd a’r bedd:
caf yno fyw dan foli o hyd
mewn hawddfyd hedd
yng nghwmni’r nefol Oen
heb sôn am bechod mwy,
ond canu am ei ddirfawr boen
byth gyda hwy.
JOHN THOMAS, 1730-1804?
(Caneuon Ffydd 762)
PowerPoint