Anfon, Arglwydd, dy oleuni
ar y dyfroedd tywyll, du
sydd â’u cerrynt yn cydgroesi
gan fy mwrw o bob tu;
dyro, Arglwydd, fraich cynhaliaeth,
rho dy nerth i achub un
na all nofio eiliad arall
yn ei fymryn nerth ei hun.
Methu credu geiriau dynion,
gweld eu hanwadalwch hwy;
chwerwi wrth wendidau eraill,
gweld fy ngwendid innau’n fwy:
tro fy nghalon rhag dibynnu
ar un dim ond grym y gras
roes Mab Duw yn lle’r troseddwr,
droes y Brenin Mawr yn was.
Tyred, Iesu, ti a wyddost
rym fy ngwendid, pwys fy mai,
a thrawiadau y gofidiau
don ar don yn fwrn di-drai:
tro y tonnau ‘n ôl nes boddi
Satan yn y dyfnder mawr,
gad im deimlo traeth tangnefedd
danaf gyda thoriad gwawr.
SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)
(Caneuon Ffydd 727)
PowerPoint