Anweledig! ‘rwy’n dy garu,
rhyfedd ydyw nerth dy ras:
tynnu f’enaid i mor hyfryd
o’i bleserau penna’ i maes;
gwnaethost fwy mewn un munudyn
nag a wnaethai’r byd o’r bron
ennill it eisteddfa dawel
yn y galon garreg hon.
‘Chlywodd clust, ni welodd llygad,
ac ni ddaeth i galon dyn
mo ddychmygu, chwaethach deall
natur d’hanfod di dy hun;
eto ‘rydwyf yn dy garu’n
fwy na dim sydd is y rhod,
a thu hwnt i ddim a glywais
neu a welais eto erioed.
Uchder nefoedd yw dy drigfan,
llawer uwch na meddwl dyn,
minnau mewn iselder daear,
bechadurus, waelaf un;
eto, nes wyt ti i’m henaid,
a’th gyfeillach bur sydd fwy
a chan’ gwell, pan fyddi bellaf,
na’u cyfeillach bennaf hwy.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 194)
PowerPoint