logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar Dymor Gaeaf

Ar dymor gaeaf dyma’r wyl
Sydd annwyl, annwyl in;
Boed sain llawenydd ym mhob llu,
Waith geni’r Iesu gwyn;
Datseinwn glod a llafar don,
Rhoed rhai tylodion lef,
Gan gofio’r pryd y gwelwyd gwawr
Eneiniog mawr y nef!

Ar gyfer heddiw Maban mwyn
A gaed o’r Forwyn Fair;
Ac yno gweled dynol-ryw
Ogoniant Duw y Gair:
Mab Duw gorucha’n isa’n awr,
Mewn preseb lle pawr ych;
O! gwelwch, luoedd daear lawr,
Diriondeb mawr y drych.

Wel dyma gysur mawr i’r gwan
Sydd beunydd dan ei boen,
Fod gwen maddeuant, meddiant mwyn,
Yn wyneb addfwyn Oen;
Mae’n galw drwy’r efengyl ber
Ar bawb yn dyner, dewch:
Nesewch at aur gynteddau’r Tad,
Trugaredd rad a gewch.

Fe bery cariad Iesu cu
Fyth i’w ryfeddu’n faith;
Datganu ei fawl, ryglyddawl glod,
Sydd ormod, gormod gwaith:
Hyn oll yn awr a allwn ni,
Sef llawen godi llef;
Pa fodd yn well i seinio clod
Cawn wybod yn y nef!

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • January 17, 2024