Ar yrfa bywyd yn y byd
a’i throeon enbyd hi
o ddydd i ddydd addawodd ef
oleuni’r nef i ni.
Fy enaid dring o riw i riw
heb ofni braw na haint
yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth
ar lwybrau serth y saint.
Y bywyd uchel wêl ei waith
ar hyd ei daith bob dydd,
a’r sawl yn Nuw a ymgryfha
a gaiff orffwysfa’r ffydd.
O ddydd i ddydd ei hedd a ddaw
fel gwlith ar ddistaw ddôl,
a da y gŵyr ei galon ef
fod gorau’r nef yn ôl.
Wel gorfoledded teulu’r ffydd
yn llafar iawn eu llef,
cyhoedded pawb o ddydd i ddydd
ei iachawdwriaeth ef.
J. T. JOB, 1867-1938
(Caneuon Ffydd 683)
PowerPoint