Arglwydd, dof gerbron dy orsedd di;
Profi’r hedd sy’n dy gwmni, a’th ras ataf fi.
Addolaf, rhyfeddaf y caf weld dy wedd,
Canaf, O! mor ffyddlon yw fy Nuw.
O! mor ffyddlon yw fy Nuw,
O! mor ffyddlon yw.
O! mor ffyddlon yw fy Nuw,
Ffyddlon bob amser yw.
O! tosturia Arglwydd, clyw fy nghri;
Gad i’m weld dy oleuni ym mhob storom ddu.
Ac yng nghysgod dy adenydd gwn mai diogel wyf,
Canaf, O! mor ffyddlon yw fy Nuw.
Arglwydd Iesu, rho dy nerth i mi,
Rwyf am garu fel y ceraist, dangos dy dosturi di.
Rhannu wnaf dy gariad, Arglwydd, tra byddaf fi byw,
Canaf, O! mor ffyddlon yw fy Nuw.
Lord I come before your throne of grace: Robert & Dawn Critchley
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Copyright © and in this translation [1989] Thankyou Music/Adm. by worshiptogether.com songs excl. UK & Europe, adm. by Kingsway Music tym@kingsway.co.uk. Used by permission