Arglwydd, rho im glywed
sŵn dy eiriau glân,
geiriau pur y bywyd,
geiriau’r tafod tân.
Pan fo dadwrdd daear
bron â’m drysu i
rho i’m henaid glywed
sŵn dy eiriau di.
Uwch tymhestlog donnau
môr fy einioes flin
dwed y gair sy’n dofi
pob ystormus hin.
A phan grwydro ‘nghalon
ar afradlon daith
dwed y gair a ddychwel
f’enaid at dy waith.
Rho im glywed beunydd
hyfryd eiriau ‘Nuw,
hyn a geidw f’enaid
yn dragwyddol fyw.
T. ELLIS JONES, 1900-75
(Caneuon Ffydd 220)
PowerPoint