Arnat, Iesu, boed fy meddwl,
am dy gariad boed fy nghân;
dyged sŵn dy ddioddefiadau
fy serchiadau oll yn Un:
mae dy gariad
uwch a glywodd neb erioed.
O na chawn ddifyrru ‘nyddiau
llwythog, dan dy ddwyfol groes,
a phob meddwl wedi ei glymu
wrth dy Berson ddydd a nos;
byw bob munud
mewn tangnefedd pur a hedd.
Mae rhyw hiraeth ar fy nghalon
am gael ffoi o dwrf y byd
a gweld dyddiau colla’i ‘ngolwg
ar bob tegan ynddo ‘nghyd:
cael ymborthi
fyth ar sylwedd pur y nef
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 502; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 477)
PowerPoint