logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Awdurdod

Y cread ŵyr y llais
a ddaeth i’r gwagle mawr
Y gwynt a ddaeth â’r llwch yn fyw
a ffurfiodd sêr y nen

Mae’r gwyll yn ofni’th lais
A’i gyrrodd ef i ffwrdd
ac er mai hir yw’r nos,
Mi wn yn iawn y gwnei hyn eto nawr

Un gair gen Ti
Daw newid ar dy awdurdod Di
Dy air sydd wir
Daw newid ar dy awdurdod Di

Ni frwydraf wrth fy hun
Mae’r diwedd yn dy law
Addolaf Di am ’mod i’n gwybod
(bydd) pob dim yn ildio i Ti

Un gair gen Ti
Daw newid ar dy awdurdod Di
Dy air sydd wir
Daw newid ar dy awdurdod Di (eto)

Ac oni drecha’r nef
a chwalu cestyll cryf?
(Oni) dewir yr ysbrydion
a chrynu wrth ei air?

Ac os yw ’Nuw o’m mhlaid i
Paham yr ofnaf mwy?
Ac ni wnaf byth â gwadu’r
Gogoniant sy’ Iddo Ef (eto)

Yn wir, fe drecha’r nef
A chwalu cestyll cryf
Fe dewir yr ysbrydion
A chrynant wrth ei air

Gwn bod fy Nuw o’m mhlaid i
Paham yr ofnaf mwy?
A does dim byd all wadu’r
Gogoniant sy Iddo Ef

Un gair gen Ti
Daw newid ar dy awdurdod Di
Dy air sydd wir
Daw newid ar dy awdurdod Di

Yn wir, fe drecha’r nef
a chwalu cestyll cryf
Fe dewir yr ysbrydion
A chrynant wrth ei air

Gwn bod fy Nuw o’m mhlaid i
Paham yr ofnaf mwy?
A does dim byd all wadu’r
Gogoniant sy Iddo Ef

Awdurdod
Authority (Brooke Ligertwood | Chris Brown| Scott Ligertwood | Steven Furtick)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones a Lowri Jones
© 2020 a’r cyfieithiad hwn © 2021 Music by Elevation Worship Publishing (BMI) Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
SHOUT! Music Publishing Australia (Gwein. gan SHOUT! Music Publishing UK)
CCLI # 7175568

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023