Awn at ei orsedd rasol ef,
dyrchafwn lef i’r lan;
mae’n gwrando pob amddifad gri,
mae’n rhoddi nerth i’r gwan.
Anadla, f’enaid llesg, drwy ffydd,
mae’r ffordd yn rhydd at Dduw;
mae gras yn gymorth hawdd ei gael,
a modd i’r gwael gael byw.
Gerbron y drugareddfa lân
fe gân yr euog rai;
mae iachawdwriaeth Calfarî
yn golchi pob rhyw fai.
RICHARD JONES, 1772-1833
(Caneuon Ffydd 180)
PowerPoint