Bloeddiwn fawl a chanu
clodydd Brenin nef,
Boed i’r Haleliwia atseinio iddo Ef.
Dowch gerbron ei orsedd i’w addoli nawr,
Dewch yn llawen gerbron ein Duw a’n Ceidwad mawr.
Ti yw fy Nghreawdwr, ti yw fy Ngwaredwr,
Arglwydd ti yw ’Mhrynwr, ti yw ’Nuw,
Ti yw yr Iachäwr.
Ti yw’r ffynnon fywiol,
Ti yw’r Bugail Da sy’n f’arwain i,
Arglwydd lesu Grist fe’th folaf di.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Shout for joy and sing: David Fellingham
© 1988 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 144)
PowerPoint