Boed fy mywyd oll yn ddiolch
dim ond diolch yw fy lle;
ni wna gwaredigaeth ragor
i greadur is y ne’:
gallu’r nefoedd
oedd a’m daliodd i i’r lan.
Ar y dibyn bûm yn chwarae;
pe syrthiasai f’enaid gwan
nid oedd bosibl imi godi
byth o’r dyfnder hwnnw i’r lan:
Iesu, Iesu
ti sy’n trefnu oll dy hun.
Rhaid oedd bod rhagluniaeth ddistaw,
rhaid oedd bod rhyw arfaeth gref
yn fy rhwymo heb im wybod
wrth golofnau pur y nef:
O ragluniaeth
ti sy’n trefnu’r ddaear faith.
Rhyfedd, Arglwydd, dy ddoethineb
rhyfedd, Arglwydd, yw dy rym;
nid oes is y nef luosog
a all dy wrth’nebu ddim:
try’r greadigaeth,
ôl a gwrthol wrth dy air.
D’air sy’n gwneud y byw yn farw,
eilwaith gwneud y marw’n fyw
d’air a greodd ac sy’n cynnal
y greadigaeth o bob rhyw
ti dy hunan
ydyw bywyd maith y byd.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 713; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 484)
PowerPoint