Caed modd i faddau beiau
a lle i guddio pen
yng nghlwyfau dyfnion Iesu
fu’n gwaedu ar y pren;
anfeidrol oedd ei gariad,
anhraethol oedd ei gur
wrth farw dros bechadur
o dan yr hoelion dur.
Un waith am byth oedd ddigon
i wisgo’r goron ddrain;
un waith am byth oedd ddigon
i ddiodde’r bicell fain;
un aberth mawr yn sylwedd
yr holl gysgodau i gyd;
un Iesu croeshoeliedig
yn feddyg drwy’r holl fyd.
1 MARY OWEN, 1796-1875, 2 ANAD
(Caneuon Ffydd 507)
PowerPoint