Cariad llethol Duw;
Dyfnach na’r moroedd,
Uwch yw na’r nefoedd.
Fythol, fywiol Dduw,
Ti a’m hachubodd i.
Baich fy mhechod cas
‘Roed arno Ef,
Fab Duw o’r nef;
Talu ‘nyled drom –
Mor fawr yw’th gariad di.
Cariad mor ddrud yn rhodd i’n byd,
Gras a thrugaredd mor rhad.
Arglwydd, dyma’r gwir –
Rwyf yn dy garu di,
Rwyf yn dy garu di.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Geraint Jones ac Arfon Jones, Overwhelmed by love: Noel Richards
© 1994 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym mawl 2: 110)
PowerPoint