logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Carol Eleusis

Beth yw melys seiniau glywaf?
Clychau aur Caersalem fry.
Beth yw tinc y don hoffusaf?
Diolch gan y nefoel lu.
Yn yr uchelderau cenwch
Felys odlau cerdd yn rhydd,
Nos wylofain, nos wylofain,
O cydfloeddiwch,
Nos wylofain, o cydfloeddiwch,
Arwain wnaeth i olau dydd.

Pwy sy’n gorwedd yn y preseb?
Anfeidrolbeb rhyfedd iawn.
Pwy all ddirnad ei diriondeb
Gabriel na, er maint ei ddawn.
Ei amgyffred Ef nis gellir,
Goruwch nef a daear yw –
Y mynyddoedd oll a dreulir
Erys ein Meseia gwiw.

Pwy mewn gwael gadachau rwymwyd
Tragwyddoldeb dim yn llai.
I ba beth y’i darostyngwyd?
Er mwyn codi euog rai.
Cyfrin bydoedd a olrheinir;
Daw’r dirgelion oll heb len,
Erys un nas llwyr ddatguddir,
Wedo elo’r byd i ben.

Pwysa enaid, beunydd arno,
Person dwyfol ddynol ryw,
Cadw, cynnal, cydymdeimlo,
Yw melusaf waith Mab Duw;
Rhoi ei hunan dros yr aflan,
Dyna wnaith er garw loes,
Mentraf innau, mentraf innau,
Iddo f’hunan,
Mentrau innau iddo ‘fhunan,
Fel yr wyf wrth droed y groes.

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • January 17, 2024