logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Carol y Swper

Cydganed dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth,
daeth trefn y Rhagluniaeth i’r goleuni,
a chân ‘Haleliwia’ o fawl i’r Gorucha,
Meseia Jwdea, heb dewi;
moliannwn o lawenydd! Gwir ydyw fod Gwaredydd!
Fe anwyd Ceidwad inni, sef Crist, y Brenin Iesu,
cyn dydd, cyn dydd ym Methlem yn ddi-gudd
y caed Gwaredydd ar foreuddydd! O wele ddedwydd ddydd!

Ein Meichiau a’n Meddyg dan fflangell wenwynig
ar agwedd un diddig yn dioddef,
a’i farnu gan Peilat, a’i wisgo mewn sgarlad
gan ddynion dideimlad, rhaid addef;
a phlethu draenen bigog yn goron anhrugarog
a’i gosod mewn modd creulon ar ben Iachawdwr dynion:
fel hyn, fel hyn y gwisgwyd Iesu gwyn,
o dan arteithiau ein mawrion feiau, i boenau pen y bryn.

Defnyddiwn ein breintiau, mae perygl o’n holau,
cyn delo dydd angau, dihangwn;
mae heddiw’n ddydd cymod a’r swper yn barod
a’r bwrdd wedi’i osod, O brysiwn!
Mae’r dwylo fu dan hoelion yn derbyn plant afradlon
i wlad y Ganaan nefol i wledda yn dragwyddol.
Amen. Amen. Boed moliant byth! Amen.
Haleliwa i’r Meseia sy’n maddau byth! Amen.

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • January 17, 2024