logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cenwch i’r Arglwydd

Cenwch i’r Arglwydd,
cenwch i’r Arglwydd,
Iôr ein hymwared ni yw;
aed yn beraidd hyd y nef
aberth moliant iddo ef,
bendigedig fo’r Arglwydd, ein Duw.

Moeswch i’r Arglwydd,
moeswch i’r Arglwydd,
moeswch ogoniant a nerth;
o’u caethiwed, rhoed yn rhydd
fyrdd o etifeddion ffydd,
mawl i enw Preswylydd y berth.

Molwch yr Arglwydd,
molwch yr Arglwydd,
molwch yr Arglwydd, ei saint;
wrth ffynhonnau’r dyfroedd byw
gorfoledded meibion Duw,
byddant hyfryd yng ngwynfyd eu braint.

Dychwel i’w Seion,
dychwel i’w Seion
dyrfa aneirif ryw ddydd;
bydd llawenydd ar eu pen,
ac o flaen yr orsedd wen
Halelwia dragwyddol a fydd.

GWILI (John Gwili Jenkins), 1872-1936

(Caneuon Ffydd 37)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015