logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cerddodd lle cerddaf fi

Cerddodd lle cerddaf fi,
Safodd lle safaf fi,
Teimiodd fel teimlaf fi,
Fe glyw fy nghri.
Gŵyr am fy ngwendid i,
Rhannodd fy natur i,
Fe’i temtiwyd ym mhob ffordd,
Heb lithro dim.

Duw gyda ni, Duw ynom ni,
Rhydd nerth i ni, Emaniwel!

Dioddefodd wawd ei hil,
Sen a rhagfarnau fil,
Lladdwyd yr un di-fai,
Ond maddau mae.
Wylodd ef drosof fi,
Er fy ngwrthryfel i,
Bu farw yn fy lle,
I mi gael byw!

Graham Kendrick, He walked where I walked; cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1988 Make Way Music. Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music. Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 51)

PowerPoint
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970