‘Cheisiais Arglwydd, ddim ond hynny,
dim ond treulio ‘nyddiau i maes
fyth i’th garu a’th ryfeddu
ac ymborthi ar dy ras:
dyna ddigon –
‘cheisiaf ‘nabod dim ond hyn.
Dal fy llygad, dal heb wyro,
dal ef ar d’addewid wir,
dal fy nhraed heb gynnig ysgog
allan fyth o’th gyfraith bur:
boed d’orchmynion
imi’n gysur ac yn hedd.
O darfydded imi garu
unrhyw bleser is y ne’,
a darfydded im fyfyrio
ar un gwrthrych yn dy le:
aed fy ysbryd
oll o’i fron yn eiddot ti.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 707)
PowerPoint