Chwennych cofio ‘rwyf o hyd
am Galfaria,
man hynota’r byd i gyd
yw Calfaria;
bu rhyw frwydyr ryfedd iawn
ar Galfaria:
cafwyd buddugoliaeth lawn,
Haleliwia!
Cerddodd Iesu dan y groes
i Galfaria,
a dioddefodd angau loes
ar Galfaria;
rhoi ei fywyd drosom wnaeth
ar Galfaria;
bywyd llawn i ninnau ddaeth,
Haleliwia!
JANE HUGHES, 1760?-1820
(Caneuon Ffydd 532)
PowerPoint