Clyma ni’n un, O Dduw,
clyma ni’n un, Dad,
â chwlwm na ellir ei ddatod:
clyma ni’n un, O Dduw,
clyma ni’n un, Dad,
clyma ni’n un ynot ti.
Dim ond un Duw sy’n bod,
dim ond un Brenin glân,
dim ond un gwerthfawr gorff,
hyn rydd ystyr i’n cân.
Er mwyn gogoniant Duw Dad,
gwaed Crist a’n prynodd drwy loes,
ynddo fe’n golchwyd yn lân
ym muddugoliaeth y groes.
Ni yw teulu’r Duw byw,
addewid o ddwyfol rin,
etholedig y Tad,
hyfryd newydd win.
Bob Gillman (Bind us together), Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Catrin Alun
Hawlfraint © 1977 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Caneuon Ffydd 626, Grym Mawl 1: 17)
PowerPoint