Am rif y saint y sydd o’u gwaeau’n rhydd, i ti a roes gerbron y byd eu ffydd, dy enw, Iesu, bendigedig fydd: Haleliwia, Haleliwia! Ti oedd eu craig, eu cyfnerth hwy a’u mur, ti, Iôr, fu’n Llywydd yn eu cad a’u cur, ti yn y ddunos oedd eu golau pur: Haleliwia, Haleliwia! Fendigaid gymun, […]
Arglwydd, gad im dawel orffwys dan gysgodau’r palmwydd clyd lle yr eistedd pererinion ar eu ffordd i’r nefol fyd, lle’r adroddant dy ffyddlondeb iddynt yn yr anial cras nes anghofio’u cyfyngderau wrth foliannu nerth dy ras. O mor hoff yw cwmni’r brodyr sydd â’u hŵyneb tua’r wlad heb un tafod yn gwenieithio, heb un fron […]
Clyma ni’n un, O Dduw, clyma ni’n un, Dad, â chwlwm na ellir ei ddatod: clyma ni’n un, O Dduw, clyma ni’n un, Dad, clyma ni’n un ynot ti. Dim ond un Duw sy’n bod, dim ond un Brenin glân, dim ond un gwerthfawr gorff, hyn rydd ystyr i’n cân. Er mwyn gogoniant Duw Dad, […]
Helaetha derfynau dy deyrnas a galw dy bobol ynghyd, datguddia dy haeddiant anfeidrol i’r eiddot, Iachawdwr y byd; cwymp anghrist, a rhwyga ei deyrnas, O brysied a deued yr awr, disgynned Jerwsalem newydd i lonni trigolion y llawr. Eheda, Efengyl, dros ŵyneb y ddaear a’r moroedd i gyd, a galw dy etholedigion o gyrrau eithafoedd […]
Mae Eglwys Dduw fel dinas wych yn deg i edrych arni: ei sail sydd berl odidog werth a’i mur o brydferth feini. Llawenydd yr holl ddaear hon yw Mynydd Seion sanctaidd; preswylfa annwyl Brenin nef yw Salem efengylaidd. Gwyn fyd y dinasyddion sydd yn rhodio’n rhydd ar hyd-ddi; y nefol fraint i minnau rho, O […]
Mae’r Brenin yn y blaen, ‘rŷm ninnau oll yn hy, ni saif na dŵr na thân o flaen ein harfog lu; ni awn, ni awn dan ganu i’r lan, cawn weld ein concwest yn y man. Ni welir un yn llesg ym myddin Brenin nef cans derbyn maent o hyd o’i nerthoedd hyfryd ef; ni […]
Mae’r gelyn yn ei gryfder yn gwarchae pobol Dduw, a sŵn ei fygythiadau sy beunydd yn ein clyw, ond Duw a glyw ein gweddi er gwaethaf trwst y llu: er ymffrost gwacsaw uffern mae Duw y nef o’n tu. Fe guddiwyd ein gwendidau gyhyd heb brofi’n ffydd; pa fodd cawn nerth i sefyll yn llawn […]
Mor dda ac mor hyfryd yw bod Pobl yr Arglwydd yn gytûn. Fe ddisgyn fel gwlith ar ein tir, Neu olew gwerthfawr Duw Sy’n llifo’n rhydd. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd Mewn hedd a harmoni. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd ynddo ef. Mor ddwfn yw afonydd ei […]
O am dafodau fil mewn hwyl i seinio gyda blas ogoniant pur fy Mhrynwr gwiw a rhyfeddodau’i ras. Fy ngrasol Arglwydd i a’m Duw, rho gymorth er dy glod i ddatgan mawl i’th enw gwiw drwy bobman is y rhod. Dy enw di, O Iesu mawr, a lawenycha’n gwedd; pêr sain i glust pechadur yw, […]
O rhoddwn fawl i’n Harglwydd Dduw, ffynnon tragwyddol gariad yw: ei drugareddau mawrion ef a bery byth fel dyddiau’r nef. O mor rhyfeddol yw ei waith dros holl derfynau’r ddaear faith; pwy byth all draethu’n llawn ei glod, anfeidrol, annherfynol Fod? Dy heddwch gad i mi fwynhau, heddwch dy etholedig rai; a phan y’u rhoddi […]