Clywch y newydd da,
Llawenydd mawr i bawb drwy’r byd;
Hyn a fydd yn arwydd:
I Fethlehem daw mab mewn crud.
Dewch, addolwch,
peidiwch ofni dim.
Neges côr angylion:
‘Gogoniant fo i Frenin Nef,
Ac ar y ddaear heddwch
I’r bobl wnaiff ei ddilyn Ef.’
Mae f’enaid i yn mawrhau yr Iôr!
F’enaid sy’n mawrhau yr Iôr!
Pethau mawr a wnaeth i mi
A wnaeth i mi.
Ganwyd i ni fachgen bach;
I ni y rhoddwyd gwir fab Duw;
Gorsedd Dafydd fydd ei le
A dewch pob gwlad o dan y ne’.
O’i lywodraeth Ef ni fydd diwedd dydd;
Ei gyfiawnder barn ddaw â’r caeth yn rhydd,
Teyrnasu wna ar orsedd nef.
Ac o’r awr hon ‘mlaen fe elwir Ef:
Rhyfeddol, Gynghorwr,Tad hyd tragwyddoldeb.
Rhyfeddol, Gynghorwr
Ac fe elwir ef Tad hyd Tragwydoldeb.
O ie, fe wnaeth bethau mawr!
My Soul Magnifies The Lord (Good News of Great Joy): Chris Tomlin; Daniel Carson,
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Timothy
© yn y cyfieithiad hwn 2009 sixsteps Music/Vamos Publishing/worshiptogether.com Songs gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com