logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cofir mwy am Fethlem Jwda

Cofir mwy am Fethlem Jwda,
testun cân pechadur yw;
cofir am y preseb hwnnw
fu’n hyfrydwch cariad Duw:
dwed o hyd pa mor ddrud
iddo ef oedd cadw’r byd.

Cofir mwy am Gethsemane
lle’r ymdrechodd Mab y Dyn;
cofir am y weddi ddyfal
a weddïodd wrtho’i hun:
dwed o hyd pa mor ddrud
iddo ef oedd cadw’r byd.

Cofir am y croesbren garw
lle y cuddiwyd ŵyneb Duw,
lle gorffennodd Iesu farw,
lle dechreuais innau fyw;
dwed o hyd pa mor ddrud
iddo ef oedd cadw’r byd.

EIFION WYN, 1867-1926

(Caneuon Ffydd 503)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015