logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Creu llwybrau

Pennill 1
Yma nawr, dy bresenoldeb di
Addolaf di, addolaf di
Yma nawr, yn gweithio ynof fi
Addolaf di, addolaf di

Cytgan
(Rwyt ti’n) Creu llwybrau, cadw addunedau, Gŵr y gwyrthiau
Golau’n y t’wyllwch, fy Nuw, dyna pwy wyt ti

Pennill 2
Yma nawr, dy gyffyrddiad di
Addolaf di, addolaf di
Yma nawr, iachau’n calonnau ni
Addolaf di, addolaf di

Pennill 3
Yma nawr, ti’n newid ’mywyd i
Addolaf di, addolaf di
Yma nawr, yn puro ’nghalon ddu
Addolaf di, addolaf di

Tag
Dyna pwy wyt ti
Dyna pwy wyt ti
Dyna pwy wyt ti
Dyna pwy wyt ti

Pont
Fe sychi ddagrau lu
A phuro ’nghalon i
Ti yw’r ateb i bob dim, Iesu
Fe sychi ddagrau lu
A phuro ’nghalon i
Ti yw’r ateb i bob dim, i bob dim, Iesu

Creu llwybrau
Waymaker (Osinachi Kalu Okoro Egbu)
Cyfieithiad awdurdodedig Steffan Morris, Rhys Hughes a Meirion Morris
© 2016 Integrity Music

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Aled Davies,
  • June 10, 2026