logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol

Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol –
‘R Hwn fu farw drosof fi;
Newid wnaeth ogoniant nefol
Am ddioddefaint Calfari.

Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol –
‘R Hwn fu farw drosof fi;
Canaf gyda’r dyrfa freiniol
Fry gerllaw y grisial li.

Bûm ar goll, ond Crist am cafodd,
Do, yr oen grwydredig bell;
Cododd fi a’m dwyn yn dyner
Eilwaith at y llwybr gwell.

Ofn a gwendid mawr a’m llethodd;
Cwympais, do yn fynych iawn;
Gobaith ffodd, a ch’wilydd dyfodd,
Ond Ei ras sy’n maddau’n llawn.

Gall mai dyddiau tywyll welaf,
Tristwch imi’n fynych ddaw,
Ond ei gwmni sydd yn para,
Ac fe’m harwain yma a thraw.

Crist a’m ceidw, nes daw afon
Angau i’m cwrddyd i a’i fraw;
Yna caf trwy ras fy ngwared,
Dwg fi’n iach i’r ochr draw.

I will sing the wondrous story, F.H.Rawley, Cyfieithiad awdurdodedig: Dafydd M.Job
© Nazarene Publishing House. Gweinyddir gan CopyCare

(Grym Mawl 2: 65)

PowerPoint