Cudd fy meiau rhag y werin,
cudd hwy rhag cyfiawnder ne’;
cofia’r gwaed un waith a gollwyd
ar y croesbren yn fy lle;
yn y dyfnder
bodda’r cyfan sy yno’ i’n fai.
Rho gydwybod wedi ei channu’n
beraidd yn y dwyfol waed,
cnawd a natur wedi darfod,
clwyfau wedi cael iachâd;
minnau’n aros
yn fy ninas fore a nawn.
Rho fy nwydau fel cantorion,
oll i chwarae’u bysedd cun
ar y delyn sydd yn seinio
enw Iesu mawr ei hun;
neb ond Iesu
fo’n ddifyrrwch ddydd a nos.
Gwna ddistawrwydd ar ganiadau
cras, afrywiog, hen y byd;
diffodd dân cynddeiriog natur
sydd yn difa gras o hyd,
fel y gallwyf
glywed pur ganiadau’r nef.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 704; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 474)
PowerPoint