Cul yw’r llwybyr imi gerdded,
is fy llaw mae dyfnder mawr,
ofn sydd arnaf yn fy nghalon
rhag i’m troed fyth lithro i lawr:
yn dy law y gallaf sefyll,
yn dy law y dof i’r lan,
yn dy law byth ni ddiffygiaf
er nad ydwyf fi ond gwan.
Dysg im gerdded drwy’r afonydd,
Na’m dychryner gan y llif,
Na bwy’n ildio gyda’r tonnau,
Temtasiynau fwy na rhif:
Cadw ‘ngolwg ar y bryniau
Uchel heirdd tu draw i’r dŵr;
Cadw ‘ngafael yn yr afon
Ar yr Iesu, ‘r blaenaf Gŵr.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 561)