Cymer, Iesu, fi fel ‘rydwyf,
fyth ni allaf fod yn well;
d’allu di a’m gwna yn agos,
f ‘wyllys i yw mynd ymhell:
yn dy glwyfau
bydda’ i’n unig fyth yn iach.
Mi ddiffygiais deithio’r crastir
dyrys, anial wrthyf f’hun;
ac mi fethais a choncwerio,
o’m gelynion lleiaf, un:
mae dy enw
‘n abl i beri i’r cryfaf ffoi.
Gwaed dy groes sy’n codi i fyny
‘r eiddil yn goncwerwr mawr;
gwaed dy groes sydd yn darostwng
cewri cedyrn fyrdd i lawr:
gad im deimlo
awel o Galfaria fryn.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 494; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 463)
PowerPoint