Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen,
cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben,
fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un
i achub gwael, golledig, euog ddyn.
Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr,
yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr;
a rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud
fel afon gref, lifeiriol dros y byd.
I ddynol-ryw Iachawdwr gwiw a gaed,
dros lwch y llawr fe roes ei werthfawr waed;
pob peth a ddaeth drwy’r iachawdwriaeth rad:
gwisg hardd i’r noeth, a chyfoeth ac iachâd.
Mae’r utgorn mawr yn seinio nawr i ni
ollyngdod llawn drwy’r Iawn ar Galfarî:
mawl ymhob iaith drwy’r ddaear faith a fydd
am angau’r groes a’r gwaed a’n rhoes yn rhydd.
PEDR FARDD, 1775-1845
(Caneuon Ffydd 527)
PowerPoint