Da yw Duw! Da bob dydd!
Fe roddodd gân o fawl yn fy nghalon i;
Da yw Duw, da bob dydd,
Try dywyllwch nos yn olau dydd;
Da yw Duw, da yw Duw, da bob dydd.
Pan yn cerdded yn y dyffryn
A rhyw gysgodion dros y lle,
Nid oes ofn, Duw sy’n arwain,
Rwyt ti’n ddiogel ynddo Fe;
Mae wedi addo bod yn gydymaith
Ac yn gwmni, ac mae’i Air yn wir.
Er ein pechod, yn anheilwng,
Daeth i farw drosom ni,
A’n bywhau trwy ei Lân Ysbryd;
A mwyach tystiwn oll yn hy
Fod maint ei gariad fel tragwyddoldeb
A’i rasusau am barhau am byth.
‘Fallai nad wy’n deall nawr
Gynllun Duw a fydd i mi;
Mae ‘mywyd yn ei law,
A thrwy olygon ffydd
Rwyf fi’n gweld yn glir.
…Da yw Duw, O! mor dda!
Da yw Duw, O! mor dda!
Da yw Duw, O! mor dda, da bob dydd!
(Grym Mawl 2: 33)
Dan Moen a Paul Overstreet: God is good all the time, Cyfieithiad Awdurdodedig: Tudur Hallam
© 1995 Integrity’s Hosanna! Music. Gweinyddir gan Kingsway’s Thankyou Music;
a Scarlet Moon Music. Gweinyddir gan Cherry Lane Music, USA