D’wed wrth bawb, cyfododd yr Iesu, Gad i’w fawl gwmpasu’r holl fyd; Dos a d’wed wrth bobloedd y gwledydd Fod Iesu Grist yn fyw. Dod i’r preseb, mynd i’r bedd, Dod i’r stabal, mynd i’r groes. Fe roes ei fywyd Ef yn aberth drosom oll; Fe ddaeth o’i orsedd fry i gadw dynion coll, […]
Da yw Duw! Da bob dydd! Fe roddodd gân o fawl yn fy nghalon i; Da yw Duw, da bob dydd, Try dywyllwch nos yn olau dydd; Da yw Duw, da yw Duw, da bob dydd. Pan yn cerdded yn y dyffryn A rhyw gysgodion dros y lle, Nid oes ofn, Duw sy’n arwain, Rwyt […]
Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan, O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf; Ac er na feddwn ddim i roi wrth dy draed, Fe ddown atat ti, gan ddweud: ‘Helpa di ni.’ Fe gyfaddefwn… Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd, Ni wrthodaist erioed; Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad, Llifa’n afon fawr, drwy […]
Fy holl ffyrdd, ein holl bryd, Roedd ôl llaw Duw i’w weld yn hyn i gyd, Ond mynnom guddio Delw’r Duw a greodd lun ein byd: O! dychwel Dduw i’n ffordd o fyw. Trwy Dduw, trwy Dduw, Daw’r hen yn newydd trwy Dduw; Bu farw fy Iôr ar groes, Fe’m cymodwyd i: Daw’r hen yn […]
Gwŷr y ffydd, dewch codwch gân, Cenwch glod i’r Arglwydd glân; Os yn wan, cewch nerth y nef, Nid oes gwendid ynddo Ef. Bloeddiwch ar bobloedd y byd, Cenwch i’r gwledydd i fyd: Iesu’r Gwaredwr yw Ef, Arglwydd daear a nef. Bloeddiwch ar bobloedd y byd. Codwch wragedd yn y ffydd, Rhoddwch gân i lonni’r […]
Heddiw, a yw’n wir Y gall gweddi’r gwan Roi i’r ddaear law, Chwalu gwledydd mawr? Dyna’r gwir, ac rwy’n ei gredu; Rwy’n byw er dy fwyn. Ydy’, mae yn wir. Fe all gweddi wan Godi’r meirw cudd, Rhoddi’r dall yn rhydd. Dyna’r gwir ac rwy’n ei gredu, Rwy’n byw er dy fwyn. Byddaf yn un, […]
Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr; Dy fawredd di yw fy ysgogiad, Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn. O garu’r da, ac nid drygioni – Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti, Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd A thaenu persawr dros dy […]
Rhof fy mywyd ger dy fron Gan geisio y gwir, A thaenellu olew serch Fel fy moliant i ti. Gan aberthu, rhaid im roi Fy nghyfan o’th flaen; Iôr, derbynia aberth mawl Un â’i galon ar dân. Iesu, pa fath o rodd? Pa beth a rof I ffrind da heb ei ail, ac i frenin […]