Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef,
da yw Duw, fe ddathlwn ni:
da yw Duw, ‘does dim amheuaeth gennym,
da yw Duw, hyn wyddom ni.
Llenwi â mawl mae fy nghalon i
am fod Duw’n fy ngharu, rhaid i mi ddawnsio:
ac yn ei galon mae lle i mi,
rhedeg wnaf â’m breichiau ar led.
Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef,
da yw Duw, fe ddathlwn ni:
da yw Duw, ‘does dim amheuaeth gennym,
da yw Duw, hyn wyddom ni. Hei!
GRAHAM KENDRICK (God is good) cyf. awdurdodedig VALERIE P. JONES
Hawlfraint © 1985 Kingsway’s Thankyou Music, P.O. Box 75, Eastbourne BN23 6NW
Detnyddiwyd trwy ganiatâd
(Caneuon Ffydd 231, Grym Mawl 1:42)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.