logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Da yw y groes, y gwradwydd

Da yw y groes, y gwradwydd,
Y gwawd, a’r erlid trist,
Y dirmyg a’r cystuddiau,
Sydd gyda Iesu Grist;
Cans yn ei groes mae coron,
Ac yn ei wawd mae bri,
A thrysor yn ei gariad
Sy fwy na’n daear ni. (W.W.)

Rho brofi grym ei gariad
Sy’n annherfynol fôr,
I’m tynnu tua’r bywyd,
Fy Nuw a’m cadarn Iôr;
Goleuni Haul Cyfiawnder,
A’i nefol hyfryd wres,
A ddaw â’r ysbryd egwan
I’r nefoedd wen yn nes. (D.W.)

William Williams, Pantycelyn a Dafydd William

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 317)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015