logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dacw gariad, dacw bechod,

Dacw gariad, dacw bechod,
Heddiw ill dau ar ben y bryn;
Hwn sydd gryf, hwnacw’n gadarn,
Pwy enilla’r ymgyrch hyn?
Cariad, cariad
Wela’i ‘n perffaith gario’r dydd.

Dringa’ i fyny i’r Olewydd,
I gael gweled maint fy mai;
Nid oes arall, is yr wybren,
Fan i’w weled fel y mae;
Annwyl f’enaid
Yno’n chwysu dafnau gwaed.

Pechod greodd ynddo’r poenau,
Pechod roddodd arno’r pwn,
Pechod barodd iddo ochain;
F’unig haeddiant i oedd hwn:
O! na welwn
Fore fyth na phechwn mwy.

George Herbert, ef. William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 471)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 9, 2015